Mae Rhwydwaith Busnes Gwynedd yn bodoli ar gyfer busnesau sy’n gweithredu yng Ngwynedd
Ein nod yw:
Darparu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio a rhyng–fasnachu trwy gyfrwng digwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol;
Eich galluogi i gael gafael ar ddarparwyr lleol a hyrwyddo eich nwyddau a’ch gwasanaethau;
Eich hysbysu ynglyn â digwyddiadau busnes, deddfwriaeth berthnasol a chyfleoedd busnes;
Cynnig fforwm i chi gael mynegi eich barn a’ch pryderon ynglŷn â materion sy’n effeithio ar eich busnes;
Eich annog i rannu ymarfer da a’ch profiadau o redeg busnes;
Hyrwyddo dawn ac arbenigedd busnesau Gwynedd;
Cynorthwyo i ddylanwadu ar strategaethau economaidd lleol a rhanbarthol drwy gysylltiad â’r sector gyhoeddus;
Darparu cyswllt gyda sefydliadau ac asiantaethau cymorth busnes eraill.
Bwrdd Cyfarwyddwyr RhBG
Ffurfiwyd RhBG fel cwmni cyfyngedig trwy warant ac mae'r Bwrdd ar hyn o bryd yn cynnwys saith cyfarwyddwr:
Cyfarwyddwyr
John Lloyd Inigo Jones a’i Gwmni Cyf Y Groeslon
Gill Richards MBE Atebion Recruitment Cyf Bangor
John Morris J Morris Consultancy Barmouth
Wyn Roberts Marchnata Aqua Caernarfon
Samantha Evans Mwnci Bach Blaenau Ffestiniog
Gwyn Jones Oriel Plas Glyn-y-Weddw Llanbedrog
Sian M Williams Griffith, Williams a'i Gwmni Pwllheli