Dod yn Aelod
Mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM ond i ymuno mae angen i chwi fod gyda eiddo busnes wedi ei leoli yn Sir Gwynedd.
Yn syml, llenwch y ffurflen gofrestru ar-lein a chliciwch ar y botwm ‘cyflwyno’. Bydd angen cyfrinair arnoch (lleiafswm o 6 digid yn cynnwys llythrennau a rhifau). Dim ond llenwi un ffurflen gofrestru sydd angen er mwyn i’ch cwmni ymddangos ar y safleoedd Cymraeg a Saesneg. Os hoffech ymddangos disgrifiad o'ch cwmni yn ddwyieithog ar y wefan bydd angen i chi fewnbynnu’r wybodaeth yn y ddwy iaith. Os mai dim ond mewn un iaith y cyflwynwch y wybodaeth, dim ond yn yr iaith honno y bydd eich gwybodaeth yn ymddangos ar y tudalennau Cymraeg a Saesneg.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru gallwch fynd i holl adrannau’r safle a hefyd lawrlwytho Logo Aelodaeth RhBG i’w ddefnyddio ar eich deunydd ysgrifennu a chyhoeddusrwydd.